Polisi Preifatrwydd

PWY YW CARW CYF? 
Cwmni masnach o Bontypridd yng nghymoedd y de yw Carw Cyf. Mae’n gwerthu cynnyrch Cymraeg ar gyfer pobl sydd â diddordeb yn hanes a diwylliant Cymru.

PA FANYLION SYDD GENNYM A SUT FYDDWN NI'N EU DEFNYDDIO? 
Mae dy fanylion yn rhan o gronfa ddata sydd gennym a ddefnyddir at un diben yn unig, sef rhoi gwybod i ti am gynnyrch a gwasanaethau Carw a/neu newyddion neu wybodaeth am Carw. Mae’r gweithgarwch hwn yn perthyn i gategori “diddordeb busnes cyfreithlon” y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Y manylion sydd gennym yw enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn (os yn berthnasol) ein cwsmeriaid.

PWY SY'N GALLU CAEL MYNEDIAD AT DY FANYLION? 
Mae’r manylion i gyd yn cael eu cadw’n ddiogel ar serfwyr darparwyr ein gwefan, a dim ond Cyfarwyddwr y cwmni sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am ein cynnyrch a’n gwasanaethau sy’n gallu cael mynediad atynt. Wrth anfon e-bost mewn swmp, bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu llwytho i wefan darparwr gwasanaethau e-bostio mewn swmp, drwy system mewngofnodi diogel. Y darparwr yw MailChimp ac mae modd gweld eu polisi preifatrwydd nhw yma. Ni fyddwn yn rhannu dy fanylion gydag unrhyw sefydliad arall.

DY HAWLIAU 
Bydd dy fanylion yn cael eu cadw tra bydd Carw yn parhau i farchnata ei gynnyrch a’i wasanaethau, ond os wyt ti'n dymuno cael dy ddileu o’n cronfa ddata ar unrhyw adeg, gelli di anfon neges e-bost i post@carwpiws.cymru i roi gwybod i ni. Byddi di hefyd yn cael cyfle i ‘ddad-danysgrifio’ o unrhyw weithgarwch marchnata pellach gyda phob neges y byddwn yn ei hanfon. Yn ogystal, mae gen ti'r hawl i'r canlynol:

    • Cael mynediad at unrhyw ddata sydd gennym amdanat
    • Cywiro unrhyw wallau yn y data sydd gennym amdanat
    • Cyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data sydd gennym amdanat.

    Mae hefyd yn bosib gwneud hyn drwy anfon neges e-bost i post@carwpiws.cymru neu drwy ysgrifennu atom yn Carw Cyf, 13 Y Padocs, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1TL.

    Os nad wyt ti'n fodlon ag ymateb y cwmni, neu os wyt ti o'r farn nad ydym yn prosesu dy ddata personol yn unol â’r gyfraith, gelli di gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwyliol ar gyfer materion diogelu data (https://ico.org.uk/). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddatrys dy bryderon cyn i ti fynd at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly gofynnwn i ti gysylltu â ni yn y lle cyntaf.