Polisïau
Cwmni bach ydyn ni sy'n hoff o gadw pethau'n syml ac agored. Dyma'r wybodaeth a'r polisïau sy'n egluro sut rydyn ni'n gweithio. Y Telerau Gwasanaeth yw'r rhai pwysicaf y dylet ti eu darllen o ran dy ddefnydd o'n gwefan, mae'r gweddill yma er gwybodaeth i ti.
Telerau Gwasanaeth: Dyma'r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan a gosod archebion. Drwy siopa ar ein gwefan, rwyt ti'n cytuno i gadw atyn nhw.
Polisi Preifatrwydd: Mae'r polisi yma'n egluro sut rydyn ni'n trin dy fanylion ac yn gwneud ein gorau i'w cadw'n ddiogel.
Polisi Cwcis: Dyma'r polisi sy'n sôn am y cwcis sy'n cael eu gosod ar dy beiriant wrth ymweld â'r wefan.
Postio: Dyma'r wybodaeth am ein dulliau ac amseroedd postio. Rydyn ni'n anelu at gael dy archebion allan yn gyflym a heb oedi gormodol.
Dychwelyd nwyddau: Wedi newid dy feddwl? Dim problem. Mae ein polisi dychwelyd yn egluro sut i anfon nwyddau yn ôl aton ni i'w cyfnewid.
Os oes gen ti gwestiwn, mae croeso i ti gysylltu â ni.
