Terms of service
TROSOLWG
Mae’r wefan yma’n cael ei gweithredu gan Carw Cyf (“Carw”, “ni”, “ein”). Ar ein gwefan, mae’r termau “ti” a “dy” yn cyfeirio at y defnyddiwr neu’r cwsmer.
Drwy ymweld â’n gwefan a/neu brynu rhywbeth ganddon ni, rwyt ti’n cytuno i ymrwymo i’r Telerau Gwasanaeth yma (“y Telerau”), gan gynnwys unrhyw delerau a pholisïau ychwanegol y cyfeirir atyn nhw neu y cysylltir â nhw ar y wefan yma.
Dylet ddarllen y Telerau yma’n ofalus cyn defnyddio’r wefan. Os nad wyt ti’n cytuno â nhw, rhaid i ti beidio â defnyddio’r wefan yma na’i gwasanaethau.
Gallwn ddiweddaru’r Telerau yma o bryd i’w gilydd drwy bostio’r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen yma. Mae dy ddefnydd parhaus o’r wefan ar ôl unrhyw newidiadau yn golygu dy fod yn derbyn y diweddariadau hynny.
Cwmni Shopify Inc. sy’n cynnal ein siop ar-lein, a nhw sy’n darparu’r llwyfan e-fasnach sy’n ein galluogi i werthu ein cynnyrch a’n gwasanaethau i ti.
Busnes bach ydyn ni, a byddwn ni bob amser yn ceisio gweithredu’n deg a gwneud y peth iawn ar gyfer ein cwsmeriaid. Pwrpas y Telerau yma yw nodi’r ffiniau i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i bawb.
1. TELERAU'R SIOP AR-LEIN
Drwy ddefnyddio’r wefan yma, rwyt ti’n cadarnhau dy fod yn ddigon hen i wneud hynny o dan gyfraith dy wlad, neu dy fod wedi rhoi caniatâd i unrhyw ddibynyddion sy’n iau na hynny i ddefnyddio’r wefan.
Ddylet ti ddim defnyddio ein cynnyrch na’n gwasanaethau at unrhyw ddiben anghyfreithlon, nac mewn unrhyw ffordd sy’n torri cyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys cyfreithiau eiddo deallusol.
Gall dorri’r Telerau yma arwain at derfynu dy fynediad i’n Gwasanaethau ar unwaith.
2. AMODAU CYFFREDINOL
Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod gwasanaeth i unrhyw un am unrhyw reswm ar unrhyw adeg.
Rwyt ti’n cytuno i beidio ag atgynhyrchu, copïo, gwerthu, ailwerthu na manteisio ar unrhyw ran o’r Gwasanaeth heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.
Er bod gwybodaeth talu bob amser yn cael ei hamgryptio yn ystod trosglwyddiad, rwyt ti’n cydnabod y gall rhywfaint o ddata nad yw’n ddata talu gael ei drosglwyddo heb ei amgryptio ar draws rhwydweithiau.
3. CYWIRDEB A GWYBODAETH
Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y wefan yma’n glir ac yn gywir, ond dim ond dynol ydyn ni – weithiau gall gwallau neu hepgoriadau ddigwydd.
At ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig mae cynnwys y wefan yma ac ni ddylid dibynnu arni fel yr unig sail ar gyfer penderfyniadau. Efallai y byddwn yn diweddaru neu’n newid y cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.
4. PRISIAU A NEWIDIADAU I WASANAETHAU
Gall prisiau ein cynnyrch newid heb rybudd.
Rydyn ni’n cadw’r hawl i addasu, atal neu roi’r gorau i ddarparu unrhyw ran o’r Gwasanaeth ar unrhyw adeg.
Dydyn ni ddim yn atebol am unrhyw golledion neu anghyfleustra a achosir gan newidiadau o’r fath, ond byddwn bob amser yn ceisio cyfathrebu’n glir lle bo modd.
5. CYNNYRCH AC ARGAELEDD
Mae rhai cynnyrch ar gael ar-lein yn unig ac efallai y bydd ganddyn nhw niferoedd cyfyngedig. Mae pob archeb yn ddarostyngedig i’n Polisi Dychwelyd.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau i arddangos ein cynnyrch yn gywir, ond allwn ni ddim gwarantu cywirdeb y lliwiau ar bob dyfais neu sgrin.
Gallwn gyfyngu neu wrthod gwerthu yn ôl ein disgresiwn a gallwn dynnu cynnyrch yn ôl ar unrhyw adeg.
6. GWYBODAETH AM FILIO A DY GYFRIF
Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod neu ganslo unrhyw archeb, cyfyngu ar niferoedd, neu gyfyngu ar archebion sy’n ymddangos fel pe baen nhw wedi’u gosod gan ailwerthwyr.
Rwyt ti’n cytuno i ddarparu gwybodaeth gywir, gyfredol a chyflawn fel y gallwn brosesu dy archeb a chysylltu â thi os oes angen.
7. GWASANAETHAU A DOLENNI TRYDYDD PARTI
Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio offer, gwasanaethau neu ddolenni gan drydydd partïon. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gywirdeb, diogelwch na dibynadwyedd unrhyw wefannau neu ddeunyddiau trydydd parti.
Cyn defnyddio unrhyw wefan neu wasanaeth allanol, dylet adolygu eu telerau a’u polisïau preifatrwydd nhw.
8. SYLWADAU AC ADBORTH GAN DDEFNYDDWYR
Os byddi di’n rhannu adborth, awgrymiadau, neu syniadau creadigol gyda ni (boed ar-lein neu drwy e-bost neu fel arall), rwyt ti’n cytuno y gallwn ni eu defnyddio, eu golygu, a’u rhannu mewn unrhyw fformat, heb gyfyngiad na thaliad.
Fyddwn ni byth yn rhannu unrhyw beth mae modd dy adnabod di’n bersonol ohoni yn fwriadol heb ganiatâd.
Dylet wneud yn siŵr nad yw unrhyw beth rwyt ti’n ei gyflwyno yn torri unrhyw gyfreithiau, hawliau, nac yn cynnwys deunydd niweidiol neu sarhaus.
9. GWYBODAETH BERSONOL
Ein Polisi Preifatrwydd sy’n berthnasol pan fyddi di’n cyflwyno data personol drwy ein siop.
10. GWALLAU A HEPGORIADAU
Mae’n bosib y bydd gwybodaeth ar ein gwefan sy’n cynnwys gwallau teipio/treiglo neu ffeithiol – gan gynnwys mewn disgrifiadau cynnyrch, prisiau, neu argaeledd.
Rydyn ni’n cadw’r hawl i gywiro unrhyw wallau o’r fath neu ganslo archebion mae hynny'n effeithio arnyn nhw heb rybudd ymlaen llaw.
11. DEFNYDD SYDD WEDI'I WAHARDD
Rhaid i ti beidio â defnyddio’r wefan na’i chynnwys ar gyfer y canlynol:
(a) at unrhyw ddiben anghyfreithlon;
(b) i dorri ein hawliau eiddo deallusol ni neu hawliau eiddo deallusol eraill;
(c) i aflonyddu, enllibio neu wahaniaethu;
(ch) i gyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol;
(d) i uwchlwytho firysau neu god maleisus;
(dd) i ymyrryd â nodweddion diogelwch neu eu hosgoi.
Rydyn ni’n cadw’r hawl i derfynu mynediad at ein gwefan i unrhyw un sy’n cyflawni defnydd sydd wedi’i wahardd.
12. YMWADIAD A CHYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD
Ein nod yw darparu profiad dibynadwy a chadarnhaol, ond allwn ni ddim addo y bydd ein gwefan na’n gwasanaethau yn ddi-dor, yn rhydd o wallau, nac ar gael bob amser.
Mae popeth rydyn ni’n ei werthu a’i ddarparu yn cael ei gynnig ar sail “fel y mae” ac “fel y mae ar gael”.
I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Carw yn atebol am unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol, gan gynnwys colli data, elw, neu gyfleoedd, sy’n deillio o ddefnyddio ein gwefan neu gynnyrch.
13. INDEMNIO
Rwyt ti’n cytuno i indemnio a rhyddarbed Carw, ei berchnogion, ei gwmnïau cysylltiedig, a’i weithwyr rhag unrhyw hawliad neu ofyniad a wneir gan drydydd parti sy’n deillio o’r ffaith dy fod yn torri’r Telerau yma neu’n torri unrhyw gyfraith neu hawliau trydydd parti.
14. TORADWYEDD
Os bernir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau yma’n ddi-rym, yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon gan lys barn, bydd y darpariaethau sy’n weddill yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodadwy.
15. TERFYNU
Mae’r Telerau yma’n parhau mewn grym nes eu bod wedi’u terfynu gen ti neu ganddon ni.
Gelli di roi’r gorau i ddefnyddio ein Gwasanaethau ar unrhyw adeg. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn atal neu’n terfynu mynediad os byddi di’n torri’r Telerau yma.
16. CYTUNDEB CYFAN
Mae’r Telerau yma, ynghyd ag unrhyw bolisïau eraill y cyfeirir atyn nhw yma, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngot ti a Carw ac yn disodli unrhyw ddealltwriaeth neu gyfathrebu blaenorol.
17. CYFRAITH LYWODRAETHOL
Bydd y Telerau yma ac unrhyw drafodion cysylltiedig yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru (a Lloegr lle bo’n berthnasol).
Bydd unrhyw anghydfodau’n ddarostyngedig i awdurdod llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
18. MANYLION CYSWLLT
Os oes gen ti gwestiynau am y Telerau yma, mae croeso i ti gysylltu â ni:
post@carw.cymru
Rydyn ni bob amser yn barod i helpu a byddwn yn ymdrechu i ddatrys pethau’n deg ac yn gyflym.
