Carw: Iaith, Rhyddid, Tân!

Mae Carw’n bodoli i ddathlu Cymru – ei hiaith, ei hiwmor, ei dewrder a’i thân.
Rydyn ni’n credu mewn Cymru rydd a Chymru hyderus: gwlad sy’n ddigon dewr i sefyll ar ei thraed ei hun, sy’n rhuo yn ei hiaith ei hun ac sy’n torri ei chwys ei hun.

NID AT DDANT PAWB
Mae’n anodd creu cynnyrch sy’n plesio pawb – ac rydyn ni’n hapus i beidio gwneud hynny.
Dydy Carw ddim at ddant pawb. Rydyn ni yma i wasanaethu’r rhai sy'n barod i godi'u llais.
Defnyddia ein cynnyrch fel uchelseinydd ar gyfer lleisiau'r gorffennol sydd wedi cael eu gwthio o’r neilltu – i atgoffa pob Dic Siôn Dafydd yn ein plith o pwy foddodd ein dyffrynnoedd ni, pwy ddefnyddiodd eu dwrn dur i geisio gwasgu ein gwrthryfeloedd ni, a phwy wnaeth eu gorau glas i grogi'r iaith allan ohonon ni.

Oherwydd fuodd Cymru erioed yn wlad i ildio'n dawel.
Ie, gwlad fach ydyn ni sydd wedi dioddef ei siâr o oruchafiaeth a choncwest, ond peidiwch â gadael iddyn nhw anghofio, rydyn ni’n dal yma. Yn dal i siarad yr iaith. Yn dal i forio canu. Yn dal i chwerthin yn wyneb yr holl oresgyniad.

BEIDDGARWCH. HERFEIDDIOL.
Rydyn ni’n creu cynnyrch beiddgar a digyfaddawd – trysorau herfeiddiol sy’n rhoi lle blaenllaw a balch i’n treftadaeth, ein hanes a’n hiaith. Rydyn ni am dy helpu di i ddangos iddyn nhw pwy ydyn ni: gwlad o bobl na allan nhw ei dileu, gwlad sy’n dal i losgi’n danbaid er gwaetha’r holl ddyffrynnoedd a foddwyd.

MAE CAREDIGRWYDD YN GRYFDER
Mae Cymru wedi bod yn genedl noddfa erioed – gwlad fach â chalon fawr. Rydyn ni’n gwybod o brofiad sut beth yw dioddef, gorfod ailadeiladu, a chroesawu. Ac rydyn ni’n gwrthod troi ein cefn ar unrhyw un sy’n chwilio am ddiogelwch neu heddwch.

Mae ganddon ni bolisi dim goddefgarwch tuag at hiliaeth, homoffobia, trawsffobia ac unrhyw fath arall o gasineb. Os ydy hynny’n broblem i ti, rydyn ni’n hapus i golli dy gwsmeriaeth di.

DROS GYMRU RYDD A THEG
Rydyn ni’n sefyll ochr yn ochr â’r rhai sy’n brwydro dros ryddid, tegwch a’r hawl i gael perthyn – yng Nghymru ac ym mhobman arall. 

Mae Carw yma ar gyfer y rheini ohonon ni sy’n gallu dychmygu Cymru well: gwlad sydd ddim yn cael ei rheoli gan goron a chymdogion, ond gweriniaeth sy’n cael ei chynnal gan garedigrwydd, y Gymraeg, a’r gred ddi-ildio y byddwn ni yma o hyd.

I'R GAD!