


Bathodyn Pin Nid yw Cymru ar Werth
Yn ôl adroddiad gan Shelter Cymru, mae'r argyfwng tai yn effeithio ar un ymhob tri ohonon ni - o'n dinasoedd i'n pentrefi bach gwledig.
Mae hon yn broblem sydd wedi bod gyda ni ers degawdau, ac mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo ers blynyddoedd maith. Mae'r broblem wedi dod yn fwy amlwg fyth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i ysgolion gau a phentrefi a chymunedau farw ar eu traed - a hynny'n aml mewn ardaloedd lle roedd y Gymraeg ar ei chryfaf.
Tai gwag sy'n lladd cymunedau. Gwisga'r bathodyn yma i ddangos yn glir bod Cymru ddim ar werth!
Bathodyn pin enamel gyda chydiwr rwber coch ar y cefn, 30mm o led.
Anaddas i blant o dan 3 oed oherwydd darnau bach a phigog.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

