Bathodyn Pin Enamel Mordecai

Pris ar sêl£7.00
Mewn stoc

"Mae'r byd yn llawn o ddynion drwg, ond neb mor ddrwg â fi!"...

Pwy sy'n cofio'r ffilm Nadoligaidd Gymraeg Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig? Dyma atgynhyrchiad o logo Mordecai, sef y dihiryn oedd yn cael ei chwarae'n wych gan Meic Povey.

"Eich arweinydd, hogia', pwy di'r bos?" "Mor-de-cai!" "Ie, heb os nac oni bai...!" "Mor-de-cai!"

Ychwanega'r bathodyn unigryw yma at dy gasgliad!

 

Bathodyn pin enamel caled lliw aur gyda chydiwr rwber du ar y cefn, 17mm o led.

Nifer cyfyngedig ar gael.