


Bathodyn Pin Eryr Wen
Yr Eryr Wen - dyma oedd arwyddlun Byddin Rhyddid Cymru, neu’r FWA, a ffurfiwyd gan Cayo Evans yn ystod y chwedegau fel ffordd o godi ymwybyddiaeth am y frwydr dros Gymru weriniaethol. Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar hen chwedl a phroffwydoliaeth fod eryr Eryri yn gwarchod Cymru, ac y bydd yr eryr, neu’r Mab Darogan, yn ymddangos rhyw ddydd pan fydd ei angen ar Gymru.
Yn ystod y chwedegau a’r saithdegau, roedd delweddau o'r Eryr Wen ac arwyddair y fyddin, ‘Fe godwn ni eto’, yn olygfeydd cyfarwydd ledled Cymru, ac er i Fyddin Rhyddid Cymru ddod i ben i bob pwrpas ddiwedd y chwedegau pan arestiwyd a dedfrydwyd sawl aelod ohoni, mae’r arwyddlun a'r arwyddair yn dal i gael eu defnyddio gan rai Cenedlaetholwyr hyd heddiw.
Dyma atgynhyrchiad o fathodyn metel oedd yn cael ei wisgo gan Cayo Evans ac aelodau eraill o’r FWA.
Bathodyn pin metel gyda chydiwr rwber coch ar y cefn, 20mm o uchder.
Anaddas i blant o dan 3 oed oherwydd darnau bach a phigog.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

