Bocs Matsis Glyndŵr a'i Feibion

Pris ar sêl£3.00
Mewn stoc
Disgrifiad

Ddiwedd y saithdegau, dechreuodd cwmni bach o Gymru werthu matsis diogelwch. Does neb yn siŵr pwy ddechreuodd y cwmni na beth ddigwyddodd i'r cwmni yn y pen draw, ond mae un peth yn sicr; mae rhywun yn rhywle'n gwybod.

Yn ddiweddar, cafodd rhai o focsys matsis unigryw y cwmni eu darganfod mewn beudy diarffordd yng nghefn gwlad Cymru. Yn ffodus i ti, mae'r Carw Piws wedi llwyddo i gael gafael ar rai ohonyn nhw!

Mynna dy ddarn ymfflamychol o hanes!

Gwybodaeth

Oherwydd rheolau postio'r Post Brenhinol nid oes matsis wedi'u cynnwys gydag archebion drwy'r post, ond mae hwn yn focs matsis go iawn sy'n gweithio, felly cofia ei gadw allan o gyrraedd plant bob amser!

Postio

Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.