

Crys-T Shampŵ
Mae'r Carw Piws yn mynd â ti nôl i'r wythdegau gyda'r crys-T lliwgar yma! "O, Maurice, Maurice! Beth wyt ti'n neud i fi?!". Dyma ein teyrnged i'r fideo cerddoriaeth mwya' secsi fuodd erioed!
Mae ein crystau-T yn rhai Fruit of the Loom o safon ac wedi'u hargraffu ag inc NeoPigment gan Kornit sy'n ddiogel i blant. Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Mae meintiau ein crysau-T yn eithaf safonol, felly os wyt ti'n hoffi crysau 'oversized' galli di ddewis un maint i fyny i beth fyddet ti'n ei wisgo fel arfer. Os wyt ti'n ansicr, galli di weld mesuriadau ein crysau-T drwy glicio'r pren mesur bach ar dop y dudalen yma, neu drwy fynd i'r dudalen yma (mesuriadau crysau-T).
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

