

Crys-T Wali Tomos
Crys-T o un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru, sef Wali Tomos, y gŵr sydd wedi bod yn rhannol gyfrifol am lwyddiant tîm pêl-droed Bryncoch gyda'i eiriau doeth - "Rhowch hel iddyn nhw!"
O dîm Bryncoch i'r tîm cenedlaethol, pwy bynnag rwyt ti'n eu dilyn, gwna'n siŵr fod gen ti grys coch ar dy gefn!
Mae ein crystau-T yn rhai Fruit of the Loom o safon ac wedi'u hargraffu ag inc NeoPigment gan Kornit sy'n ddiogel i blant. Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Mae meintiau ein crysau-T yn eithaf safonol, felly os wyt ti'n hoffi crysau 'oversized' galli di ddewis un maint i fyny i beth fyddet ti'n ei wisgo fel arfer. Os wyt ti'n ansicr, galli di weld mesuriadau ein crysau-T drwy glicio'r pren mesur bach ar dop y dudalen yma, neu drwy fynd i'r dudalen yma (mesuriadau crysau-T).
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

