



Label metel FWA
Disgrifiad
Label metel du gydag enamel gwyn o arwyddlun Byddin Rhyddid Cymru, sef yr Eryr Wen. Perffaith i'w osod ar ddillad neu fag i ddangos dy gefnogaeth dros Gymru Rydd.
Ffurfiwyd yr FWA gan Cayo Evans yn ystod y chwedegau fel ffordd o godi ymwybyddiaeth am y frwydr dros Gymru weriniaethol. Yn ystod y chwedegau a’r saithdegau, roedd delweddau o'r Eryr Wen ac arwyddair y fyddin, ‘Fe godwn ni eto’, yn olygfeydd cyfarwydd ledled Cymru.
Gwybodaeth
Label metel du gydag enamel gwyn.
Maint: 70mm x 35mm
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

