
Poster Bromas
Wyt ti wastad yn poeni am bethau? Mae'r byd yn troi yr un faint â ddoe heb dy ofid, felly pam poeni?!? Dyma'r poster perffaith i dy atgoffa di mai sbecyn bach wyt ti mewn bydysawd enfawr - does dim angen i ti boeni, mae bywyd yn mynd yn ei flaen!
Poster yn seiliedig ar lyrics o gân Grimaldi gan y band Bromas. Cer i wrando ar y gân gyfan, mae hi'n diwn a hanner!
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

