

Poster Matsis Glyndŵr
Ddiwedd y saithdegau, dechreuodd cwmni bach o Gymru werthu matsis diogelwch. Does neb yn siŵr pwy ddechreuodd y cwmni na beth ddigwyddodd i'r cwmni yn y pen draw, ond mae un peth yn sicr; mae rhywun yn rhywle'n gwybod.
Dyma atgynhyrchiad o hysbyseb cellweirus cwmni ffuglennol Matsis Glyndŵr a'i Feibion a ymddangosodd yn y cylchgrawn cenedlaetholgar 'Cynnal y Fflam' (rhifyn haf 1979).
Mynna dy ddarn 'ymfflamychol' o hanes!
Yn ddiweddar, cafodd rhai o focsys matsis unigryw y cwmni eu darganfod mewn beudy diarffordd yng nghefn gwlad Cymru. Yn ffodus i ti, rydyn ni wedi llwyddo i gael gafael ar rai ohonyn nhw! Pryna'r poster yma ac fe gei di focs matsis retro am ddim hefyd!
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

