
Poster Mawr yr Eisteddfod
Wyt ti'n cofio pa flwyddyn nes di aros yn Maes B am y tro cyntaf? Faint o weithiau mae'r Eisteddfod wedi bod i'r Bala? Neu yn pa Eisteddfod(au) nes di gysgu ar lawr y Gorlan yn lle dy babell?
Os yw dy deulu di yn debyg i deulu'r Carw Piws, ti siŵr o fod wedi bod yn rhan o sawl trafodaeth am ble mae'r Eisteddfod wedi bod a pryd?! Wel, dyma'r poster perffaith i roi diwedd ar y dadlau!
Poster o Gymru ar ffurf map o'r Maes sy'n rhestru'r Eisteddfodau Cenedlaethol swyddogol ar hyd y degawdau.
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

