
Poster Roswell Cymru
Roedd y llywodraeth yn honni mai cyfuniad o ddaeargryn a chawod o sêr gwib oedd y goleuadau welodd pobl y Bala uwchben Mynydd y Berwyn ar 23 Ionawr 1974. Am gyfuniad rhyfeddol o gyd-ddigwyddiadau...
Mae rhai'n meddwl bod UFO wedi glanio'n ddamweiniol ar y mynydd a bod y llywodraeth yn celu'r gwirionedd. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae'r dirgelwch yn dal heb ei ddatrys. Wyt ti'n dal i gredu?
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

