
Poster Wali Tomos
"Reeeit, let a bit o' hysh i drafod tic tacs..."
Poster o un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru (ac un o'r mwyaf adnabyddus am wisgo béret) o'r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld - Wali Tomos - sef y gŵr sydd wedi bod yn "rhedeg y lein i Fryncoch ers dros 30 mlynedd"! Beth sydd wedi sicrhau llwyddiant tîm pêl-droed Bryncoch gyhyd? Geiriau doeth Wali wrth gwrs - "Rhowch hel iddyn nhw!"
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

