
Poster y Wyddor Gymraeg Wahanol
Ti siŵr o fod yn gwybod dy wyddor, ond wyt ti'n gwybod dy wyddor go iawn?!
Mae gan Gymru ganrifoedd o hanes cythryblus, lliwgar a tywyll - dyma boster sy'n cyfleu ychydig o'r hanes. Os oes rhywbeth yn anghyfarwydd, jyst gwgla'r atebion sydd ar waelod y poster i ddysgu mwy am hanes dy famwlad!
Poster lliwgar o ddigwyddiadau, cymeriadau a sefydliadau pwysig (a falle ddim cweit mor bwysig!) sydd wedi helpu i'n creu ni fel cenedl heddiw!
Poster mawr maint A2 (420mm x 594mm) ar bapur trwchus o safon.
Gall y lliwiau ar y fersiwn argraffedig amrywio ychydig.
Rydyn ni'n anelu at bostio unrhyw archebion o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
Mae ein cyfraddau postio i'w gweld yma.
Galli di ddychwelyd eitem rwyt ti'n anhapus â hi a'i chyfnewid am gredyd siop neu eitem arall o'r un gwerth o fewn 30 diwrnod!

